English

arwyddion rhybuddio mewn plant ac oedolion    

Oherwydd bod cam-drin plant yn rhywiol mor anodd meddwl amdano, mae rhai pobl yn ei chael hi'n haws gwadu bod problem.

Efallai y bydd rhieni yn y sefyllfa hon yn meddwl, 'Byddai fy mhlentyn wedi dweud wrthyf pe byddent yn cael eu cam-drin ac nad ydyn nhw wedi gwneud hynny - felly all e ddim bod yn digwydd'.

Mae camdrinwyr plant yn rhywiol yn dibynnu ar breifatrwydd a chyfrinachedd er mwyn sicrhau nad yw’r gamdriniaeth yn cael ei darganfod a'i chofnodi. Ond, hyd yn oed pan nad yw plentyn wedi dweud unrhyw beth, gall fod arwyddion corfforol neu ymddygiadol bod plentyn yn cael ei gam-drin - bydd plant yn aml yn dangos i ni yn hytrach na dweud wrthym fod rhywbeth yn eu cynhyrfu.

Gwyliwch y ffilm fer isod er mwyn dysgu am yr arwyddion rhybuddio o gam-drin rhywiol mewn plant a sut i ymateb iddynt.

Arwyddion rhybuddio mewn plant

Arwyddion rhybuddio mewn oedolion

Arwyddion rhybuddio mewn plant

Oherwydd bod cam-drin plant yn rhywiol mor anodd meddwl amdano, mae rhai pobl yn ei chael hi'n haws gwadu bod problem.

Efallai y bydd rhieni yn y sefyllfa hon yn meddwl, 'Byddai fy mhlentyn wedi dweud wrthyf pe byddent yn cael eu cam-drin ac nad ydynt wedi gwneud hynny – felly nad ydyw yn digwydd'.

Mae camdrinwyr plant yn dibynnu ar breifatrwydd a chyfrinachedd er mwyn sicrhau nad yw’r gamdriniaeth yn cael ei darganfod a'i chofnodi. Ond, hyd yn oed pan nad yw plentyn wedi dweud unrhyw beth, gall fod arwyddion corfforol neu ymddygiadol bod plentyn yn cael ei gam-drin - bydd plant yn aml yn dangos i ni yn hytrach na dweud wrthym fod rhywbeth yn eu cynhyrfu.

Gall newidiadau mewn ymddygiad plentyn sydd angen ein sylw gynnwys:

  • Y plentyn yn ymddwyn mewn ffordd rywiol gyda theganau neu wrthrychau
  • Cael hunllefau neu broblemau cysgu eraill
  • Newid mewn personoliaeth neu'n ymddangos yn ansicr yn sydyn
  • Llithro’n ôl i ymddygiadau iau, fel gwlychu'r gwely
  • Ofn anesboniadwy o bobl neu lefydd
  • Ffrwydradau o ddicter
  • Newidiadau mewn arferion bwyta
  • Arwyddion corfforol, fel doluriau anesboniadwy neu gleisiau o amgylch rhannau preifat
  • Dod yn gyfrinachgar
  • Cael anrhegion anesboniadwy fel teganau, arian, ffôn symudol, dillad drud

Gall fod llawer o resymau dros yr ymddygiadau a'r newidiadau hyn, ond mae'n well ein bod yn gwirio pob un ohonynt; ac os ydym yn sylwi ar gyfuniad o'r arwyddion hyn, mae'n bryd ceisio cymorth a chyngor.

Trwy gyfyngu ar y cyfleoedd sydd gan eraill i gael plentyn ar eu pennau eu hunain, ac os ydym yn cadw golwg am yr arwyddion rhybuddio ac yn ymateb yn briodol, gallwn atal camdriniaeth rhag digwydd yn y lle cyntaf.       

Cadwch mewn cof y gall rhai o'r arwyddion hyn ddod i'r amlwg ar adegau eraill o straen fel:

Adnabod yr arwyddion rhybuddio mewn oedolion

Mae'n anodd adnabod pobl sy'n cam-drin plant yn rhywiol yng nghanol torf - ond gallwch edrych am yr arwyddion rhybuddio yn eu hymddygiad. Gwyliwch y ffilm isod er mwyn dysgu’r arwyddion a sut i ymateb.

Nid yw'r arwyddion rhybuddio hyn bob amser yn amlwg. Ond gall fod achos pryder ynghylch ymddygiad oedolyn neu berson ifanc arall:

  • Gwrthod caniatáu digon o breifatrwydd i blentyn neu adael iddynt wneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch materion personol
  • Mynnu hoffter corfforol, fel cusanu, cofleidio, reslo neu oglais hyd yn oed pan nad yw'r plentyn ei eisiau
  • Gormod o ddiddordeb yn natblygiad rhywiol plentyn neu blentyn yn ei arddegau
  • Trafod neu rannu jôcs rhywiol neu ddeunydd rhywiol gyda phlentyn neu berson ifanc, ar-lein neu oddi ar-lein
  • Mynnu amser ar ei ben ei hun gyda phlentyn, heb ymyrraeth
  • Treulio y rhan fwyaf o'u hamser hamdden gyda phlant ac nid oes ganddyn nhw fawr o ddiddordeb mewn treulio amser gyda phobl o’u hoedran eu hunain
  • Cynnig yn rheolaidd i warchod plant am ddim neu fynd â phlant ar wibdeithiau dros nos yn unig
  • Prynu anrhegion drud i blant neu roi arian iddynt am ddim rheswm amlwg
  • Cerdded i mewn yn aml ar blant neu bobl ifanc yn eu harddegau yn yr ystafell ymolchi
  • Trin plentyn penodol fel ffefryn, gan wneud iddo deimlo’n ‘arbennig’ o’i gymharu ag eraill yn y teulu
  • Dewis plentyn penodol

Nid yw un o'r arwyddion hyn o reidrwydd yn golygu bod yr unigolyn yn risg rhywiol neu fod camdriniaeth yn digwydd. Ond dylid cymryd popeth o ddifrif; a dylai nifer o'r arwyddion hyn gyda'i gilydd gael ein sylw brys.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD OS YDYCH YN GWELD ARWYDDION RHYBUDDIO

Peidiwch ag aros am 'brawf' o gam-drin plant yn rhywiol - os ydych chi'n credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol yna ffoniwch 999 er mwyn siarad â'r heddlu.

Ewch i'n tudalennau cynllun diogelwch teulu i gael gwybodaeth a chyngor am yr hyn i feddwl amdano ac i gadw'ch plant yn ddiogel.

Os ydych chi'n poeni am sut mae rhiant, cefnder, brawd neu chwaer, ffrind neu gymydog yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch drafod eich pryderon gydag ymgynghorwyr profiadol ar linell gymorth gyfrinachol Stop It Now!, neu os nad ydych yn barod i siarad â rhywun gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw neu anfon neges ddiogel.

< Fideo blaenorol                                                                                                                                                                        Fideo nesaf >      

EISIAU GWYBOD MWY?

Os ydych chi eisiau gwybod mwy sut i atal cam-drin plant yn rhywiol, gallwch wylio gweddill ein ffilmiau byr.

Os ydych chi'n poeni am sut mae rhiant, cefnder, brawd neu chwaer, ffrind neu gymydog yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch drafod eich pryderon gydag ymgynghorwyr profiadol ar linell gymorth gyfrinachol Stop It Now!, neu os nad ydych yn barod i siarad â rhywun gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw neu anfon neges ddiogel.

Create a Family Safety
Plan

A family safety plan can help to protect children by creating a safer environment where they can discuss worries, set boundaries and get help.

Learn More

Trafflic Light Tools Leaflets

Our traffic light tool leaflets aims to offer guidance to adults to understand the difference between healthy and unhealthy sexual development.

Learn More

Harmful sexual behaviour in young people

In order to prevent harm, it is important to understand the warning signs in both adults and children, and what healthy sexual development looks like.

Learn More

What to do if a child tells about abuse

It can be difficult to know how to respond if a child tells you about abuse - we can help you to respond in a sensitive and appropriate way.

Learn More