English

Mae llawer o resymau pam nad yw plant yn siarad am gamdriniaeth a allai fod wedi digwydd iddyn nhw neu am eu pryderon ynghylch oedolyn neu berson ifanc arall yn eu bywydau.

Mae'n hanfodol bod oedolion a gofalwyr yn deall beth i edrych amdano os ydynt yn poeni am blentyn a sut i ddechrau cyfathrebu a hwy fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu trafod unrhyw gamdriniaeth a allai fod wedi digwydd a sut i amddiffyn eu hunain yn well, ar-lein ac oddi ar-lein.

Bydd y fideo addysgol byr isod yn darparu gwybodaeth bellach ynghylch pam nad yw plant efallai'n teimlo y gallant drafod camdriniaeth, sut mae pobl sy'n cam-drin plant yn gallu tawelu plant a sut i gefnogi plant nad ydynt efallai'n teimlo'n gyffyrddus yn trafod yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Pam nad yw plant yn dweud am gamdriniaeth

Mae'n anghyffredin i unrhyw un heblaw'r camdriniwr a'r dioddefwr fod yn dyst i gamdriniaeth; ac efallai na fydd plentyn byth yn dod ymlaen a dweud wrthych chi, nac unrhyw un arall, amdano.

Mae yna lawer o resymau pam nad yw plant yn siarad am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw.

Mae ymchwil yn awgrymu na ddywedodd 3 o bob 4 plentyn a ddioddefodd wrth unrhyw un am y cam-drin ar yr adeg y digwyddodd oherwydd embaras neu gywilydd, neu feddwl na fyddent yn cael eu credu.

Weithiau mae plentyn mor ifanc neu'n ofni nad ydyn nhw'n gwybod neu ddim yn gallu dod o hyd i'r geiriau i egluro beth sy'n digwydd iddyn nhw. Ac weithiau maen nhw'n cael eu drysu cymaint gan y camdriniwr, fel nad ydyn nhw'n gwybod bod yr hyn sy'n digwydd yn anghywir.

Mae gan gamdrinwyr lawer o ffyrdd o sicrhau distawrwydd plentyn. Bydd rhai yn chwarae ar eu hofn, eu hembaras a'u heuogrwydd; a gall hyd yn oed wneud i'r plentyn feddwl ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le.

Er enghraifft, trwy gyflwyno plentyn i alcohol, cyffuriau neu bornograffi, mae'r camdriniwr yn gwybod y bydd y plentyn yn fwy amharod i ddweud, rhag ofn mynd i drafferth.

Weithiau mae camdrinwyr yn credu eu bod wir yn gofalu am eu dioddefwyr a hyd yn oed yn eu caru - p'un a yw'r cam-drin yn digwydd y tu mewn neu'r tu allan i'r teulu. Maen nhw'n rhoi llawer o sylw i'r plentyn sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n arbennig. Felly, mewn llawer o achosion, efallai y bydd y dioddefwr yn caru'r camdriniwr - yn enwedig os yw hwn yn aelod o'r teulu - ac efallai na fydd eisiau colli cysylltiad â nhw trwy ddatgelu.

< Fideo blaenorol                                                                                                                                                                      Fideo nesaf >

EISIAU GWYBOD MWY?

Os ydych eisiau gwybod mwy sut i atal cam-drin plant yn rhywiol, gallwch wylio gweddill ein ffilmiau byr.

Os ydych chi'n poeni am sut mae oedolyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch gael cefnogaeth gyfrinachol drwylinell gymorth Stop It Now! 0808 1000 900.Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun eto, gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw neu anfon neges ddiogel

Create a Family safety Plan 

A family safety plan can help to protect children by creating a safer environment where they can discuss worries, set boundaries and get help.

Learn More

Warning signs in adults and children

Children frequently do not tell about the abuse they are experiencing and so understanding the warning signs can help to support and offer guidance to parents and carers. 

Learn More

WHO SEXUALLY ABUSES CHILDREN? 

As more than 8 in 10 children who are sexually abused by someone they know, this often means that they never disclose the abuse. Understanding who sexually abuses children can help to better prevent harm.

Learn More

what to do if a child tells you about abuse?

Although children rarely disclose abuse, if they do, it is vital to repspond sensitvely and appropiately. Our guide aims to offer support to parents and carers to know how to act.

Learn More