English

Daw'r risg mwyaf o gam-drin plant yn rhywiol gan bobl mae’r plentyn yn ei adnabod - yn aelod o’r teulu a'u cymuned. Mae plant eraill hefyd yn peri risg, ac mae tua un rhan o dair o'r rhai sydd wedi cam-drin plentyn yn rhywiol eu hunain o dan 18 oed.

A chan fod cyfyngiadau Covid-19 yn golygu y gallai rhai plant fod yn treulio mwy o amser heb oruchwyliaeth oddi ar-lein ac ar-lein neu i ffwrdd oddi wrth oedolion cefnogol, mae perygl gwirioneddol y gallai achosion o niwed gynyddu.

Dyna pam rydyn ni wedi gwneud pecyn cymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol

I'w helpu i fod yn ymwybodol o risgiau ymddygiad rhywiol niweidiol mewn plant a phobl ifanc, fel eu bod nhw'n gwybod beth allan nhw ei wneud i'w atal. Mae ynddo gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth, ynghyd ag adnoddau a dolenni i sefydliadau defnyddiol.

Mae hwn yn fater arbennig o anodd delio ag ef, yn rhannol oherwydd ei fod yn anodd inni feddwl am blant yn cam-drin plant eraill yn rhywiol, ond hefyd oherwydd nad yw bob amser yn hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng ymddygiadau rhywiol ymosodol ac arferol mewn plant. Gall plant, yn enwedig yn y grwpiau oedran iau, ymddwyn yn y fath fodd heb unrhyw wybodaeth ei fod yn anghywir neu'n ymosodol. Am y rheswm hwn, gallai fod yn fwy cywir siarad am ymddygiad rhywiol niweidiol yn hytrach na chamdriniaeth.

Gwyliwch y ffilm isod i ddarganfod mwy a sut i'w atal.

Pobl ifanc ag ymddygiad rhywiol niweidiol 

Mae tua un o bob tri achos o gam-drin plant yn rhywiol yn cael ei gyflawni gan blant a phobl ifanc eraill o dan un deg wyth oed. Wedi dweud hynny, mae'r amgylchiadau yn aml yn wahanol iawn i pan fydd oedolion yn cam-drin, sy'n golygu eu bod yn aml yn gofyn am ymateb gwahanol. Nid yw hynny'n golygu na ddylem gymryd camdriniaeth o'r fath o ddifri, oherwydd dylem wneud hynny. Gall y niwed a wneir i ddioddefwyr fod yr un mor ddifrifol â phan fydd oedolyn yn cam-drin.

Mewn amgylchiadau o’r fath, yn lle siarad am “y camdriniwr”, rydym yn aml yn defnyddio’r term “person ifanc sydd wedi arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol”. Fel plant eu hunain, mae ganddyn nhw'r hawl i gael eu hamddiffyn a'u cefnogi i fyw bywydau gwell. Rhaid inni beidio ag anwybyddu'r risg allai fodoli o hyd, ond rhaid inni gydnabod hefyd, gyda'r cymorth cywir, na fydd y mwyafrif llethol yn aildroseddu.

Os byddwch chi'n darganfod bod eich plentyn wedi niweidio plentyn arall, mae'n debygol y byddwch chi'n teimlo sioc, dryswch ac ansicrwydd ynghylch ble i droi am cymorth. Rydyn ni'n darganfod bod rhieni eisiau gwneud y peth iawn ac maen nhw hefyd eisiau amddiffyn eu plentyn..

Weithiau mae rhieni'n ei chael hi'n anodd nodi ymddygiad rhywiol arferol mewn pobl ifanc, ac mae amgylchiadau pobl ifanc sy'n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol yn amrywio - er enghraifft, defnyddio iaith amhriodol, i gam-drin brawd neu chwaer dros gyfnod hir o amser. Mae rhieni yn aml eisiau gwybod pam? Yn aml nid yw o ganlyniad i un peth ac mae'n debygol na fydd y plentyn yn gallu dweud pam.

Yn hytrach na chosbi a chywilyddio pobl ifanc, credwn mewn eu helpu i gysylltu â'u cryfderau a'u priodoleddau cadarnhaol, i'w tynnu oddi wrth ymddwyn mewn ffordd sy'n niweidio eraill.

Mae'r byd ar-lein yn cyflwyno her arall. Heddiw, mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn profi datblygiad rhywiol mewn ffordd hollol wahanol i'w rhieni, a all wneud siarad am ryw yn anoddach. Mae bron pob un yn mynd ar-lein ac, yn aml,  mae llawer yn agored i bornograffi cyn iddynt gyrraedd oed aeddfedrwydd.

Fel oedolion mae gennym gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i atal plant a phobl ifanc rhag amsugno deunydd niweidiol y maent yn dod o hyd iddo ar-lein.

Mae angen i ni roi negeseuon cadarnhaol a chywir iddynt am y gyfraith, rhywioldeb, rhyw a pherthnasoedd. Rydyn ni am iddyn nhw ddeall pwysigrwydd caredigrwydd, parch, cariad, agosatrwydd a chydsyniad.

POBL IFANC AG YMDDYGIAD RHYWIOL NIWEIDIOL

Un o'r pethau anoddaf i rieni ei ddarganfod yw y gallai eu plentyn fod wedi niweidio neu gam-drin plentyn arall yn rhywiol. Yn y sefyllfa hon, mae gwadu, sioc a dicter yn ymatebion arferol. Os na ymatebir iddo yn gyflym ac yn sensitif, gall yr effaith ar y teulu cyfan fod yn ddinistriol. Am y rheswm hwn mae'n hanfodol cysylltu â rhywun i gael cyngor ar beth i'w wneud cyn gynted ag y byddwch yn amau ​​bod rhywbeth o'i le.

Y neges gadarnhaol yw y gall cymorth cynnar i'r plentyn neu'r person ifanc a'i deulu wneud gwahaniaeth. Mae tystiolaeth yn awgrymu, y cynharaf y gall plant gael cymorth, y mwyaf o siawns sydd yna o’u hatal rhag symud ymlaen i ymddygiad mwy difrifol. Mae'n bwysig bod yn effro i'r arwyddion rhybuddio cynnar bod rhywbeth yn mynd o'i le.

Os ydych chi yn y sefyllfa hon, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae llawer o rieni eraill wedi bod trwy brofiadau tebyg, ac, o ganlyniad, mae’r plentyn a’r teulu yn darganfod yr cymorth oedd ei angen arnynt i ailadeiladu eu bywydau.  Y cam cyntaf yw penderfynu y byddai'n ddefnyddiol trafod gyda rhywun arall. Mae llinell gymorth Stop It Now! ar gael ar gyfer y gefnogaeth hon ar 0808 1000 900.

Ydych chi’n adnabod plentyn neu berson ifanc sydd:

  • Yn chwilio am gwmni plant iau ac yn treulio amser anarferol yn eu cwmni?
  • Yn mynd â phlant iau i leoedd 'cyfrinachol' neu guddfannau neu'n chwarae gemau 'arbennig' gyda nhw (e.e. meddyg a chlaf, tynnu dillad ac ati) yn enwedig gemau sy'n anarferol i'w hoedran?
  • Yn mynnu cofleidio neu gusanu plentyn pan nad yw'r plentyn eisiau gwneud hynny?
  • Yn dweud wrthych nad ydyn nhw eisiau bod ar eu pen eu hunain gyda phlentyn neu'n dod yn bryderus pan ddaw plentyn penodol i ymweld?
  • Yn aml yn defnyddio iaith ymosodol neu rywiol am oedolion neu blant?
  • Yn dangos deunydd rhywiol i blant iau?
  • Yn gwneud galwadau ffôn cam-drin rhywiol?
  • Yn rhannu alcohol neu gyffuriau gyda phlant iau neu bobl ifanc?
  • Yn gweld pornograffi plant ar y rhyngrwyd neu yn rhywle arall?
  • Yn arddangos rhannau preifat o’i corff?

  • Yn gorfodi rhyw ar berson ifanc neu blentyn arall?

Os gwnaethoch chi ateb ydw i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, dylech siarad â'r plentyn neu'r person ifanc a gofyn am gyngor.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD OS YDYCH CHI'N GWELD ARWYDDION RHYBUDDIO NEU YN AMAU BOD EICH PLENTYN YN NIWEIDIO PLENTYN ARALL YN RHYWIOL, NEU YN MEDDWL AM WNEUD?

Peidiwch ag aros am 'brawf' o gam-drin plant yn rhywiol.

Gall fod yn annifyr amau ​​bod eich plentyn, neu blentyn rydych chi'n ei adnabod, yn niweidio rhywun yn rhywiol. Mae'n gymaint haws gwrthod meddyliau o'r fath a'u gadael i'r dychymyg. Efallai eich bod hefyd yn poeni am ganlyniadau gweithredu. Ond mae cymorth ar gael ac mae'n well trafod y sefyllfa gyda rhywun ar y pryd, yn hytrach na darganfod yn nes ymlaen eich bod chi'n iawn i bryderu. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae miloedd o bobl bob blwyddyn yn darganfod bod rhywun yn eu teulu neu gylch ffrindiau wedi cael ei gam-drin neu wedi cam-drin plentyn.

Os ydych chi'n poeni y gallai'ch plentyn fod yn niweidio plentyn arall yn rhywiol, neu os ydych chi'n amau ​​bod eich plentyn yn cael ei gam-drin, gweithredwch nawr.

Gall gweithredu arwain at atal camdriniaeth, gyda phlant sy'n cael eu cam-drin yn derbyn amddiffyniad a cymorth i wella. Gall hefyd arwain at y camdriniwr yn cael triniaeth effeithiol i roi'r gorau i gam-drin a thyfu i fyny yn aelod mwy diogel o'n cymuned. Mae angen i ni gael cefnogaeth i ni'n hunain hefyd.

Ffoniwch llinell gymorth Stop It Now! ar 0808 1000 900 i drafod unrhyw bryderon sydd gennych.

"Siarad â fy mab oedd y peth gorau y gallwn fod wedi'i wneud. Gosodais derfyn clir, rhoddais wybod iddo ei fod yn anghywir a dywedais wrtho na fyddwn yn ei helpu i gadw ei gyfrinachau. Rhoddais wybod iddo hefyd fy mod yn ei garu, nad oedd ar ei ben ei hun ac y byddem gyda'n gilydd yn cael cymorth iddo."
Mam plentyn yn ei arddegau a oedd yn cam-drin yn rhywiol.
"Doedden ni ddim yn gallu deall ar y dechrau pam nad oedd wedi dweud wrthym ni. Nawr rydyn ni'n gwybod pa mor ddryslyd ydoedd. Roedd yn teimlo mai ei fai ef oedd hynny, er nad oedd wedi dymuno iddo ddigwydd."
Rhieni bachgen yn ei arddegau a gafodd ei gam-drin gan ddau ffrind.

"Doedd gen i ddim y geiriau i ddweud wrth fy rhieni beth oedd yn digwydd. Dywedais nad oeddwn i eisiau cael fy ngadael ar fy mhen fy hun gyda phlant. Rwy'n dymuno iddyn nhw wrando arna i ...

Person ifanc sy'n cam-drin yn rhywiol.

< Fideo blaenorol                                                                                                                                                                        Fideo senaf > 

EISIAU GWYBOD MWY?

Os ydych eisiau gwybod mwy sut i atal cam-drin plant yn rhywiol, gallwch wylio gweddill ein ffilmiau byr.

Os ydych chi'n poeni am sut mae oedolyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch gael cefnogaeth gyfrinachol drwylinell gymorth Stop It Now! 0808 1000 900.Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun eto, gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw neu anfon neges ddiogel

Create a Family Safety
Plan

A family safety plan can help to protect children by creating a safer environment where they can discuss worries, set boundaries and get help.

Learn More

What to do if your child gets into trouble online

From sexting to viewing adult pornography, this guide aims to help parents and carers support children and young people who have gotten into trouble online.

Learn More

Warning signs in children and adults

It can be very difficult to think that a child is being abused, especially by another child. But there are key signs to be aware of and we are here to assist you with responding appropriately.

Learn More

Traffic Light Tool Leaflets

It's vital to understand the difference between healthy sexual exploration and what is not appropriate for children and young people. Read through our traffic light tool leaflets to understand more.

Learn More