English

DIOGELWCH AR-LEIN

Mae plant yn defnyddio gwefannau ac apiau gwahanol i’w rhieni yn rheolaidd, a gall fod yn anodd cadw i fyny yn y byd digidol hwn sy'n newid yn barhaus.

Ond mae'r pethau sy'n helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein yn aml yn debyg i'r pethau sy'n eu cadw'n ddiogel oddi ar-lein.

Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod sut i amddiffyn plant yn y byd digidol, sut i roi gwybod am ddeunydd niweidiol ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer amser sgrin iach.

Diogelwch ar-lein

Mae plant yn defnyddio gwefannau ac apiau gwahanol gan eu rhieni yn rheolaidd, a gall fod yn anodd cadw lan a’r byd digidol hwn sy'n newid yn barhaus.

Ond mae'r pethau sy'n helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein yn aml yn debyg i'r pethau sy'n eu cadw'n ddiogel oddi ar-lein.

Cyfathrebu sy’n allweddol - anogwch nhw i siarad am eu gweithgareddau a'u perthnasoedd, eu dysgu am ble y gallent fynd os oes angen cymorth arnynt, a bod yn agored ac yn gefnogol i adael iddynt wybod y gallent ddod atoch chi.

Siaradwch am yr hyn maen nhw'n meddwl sy'n normal ar-lein a pha ymddygiad i'w ddisgwyl gan eraill a ganddyn nhw eu hunain.

Anogwch nhw i feddwl yn feirniadol a chwestiynu'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein. Siaradwch â nhw am ble maen nhw'n mynd i gael gwybodaeth maen nhw'n ymddiried ynddi, siaradwch am newyddion ffug, dilynwyr ffug a sgamiau. Helpwch nhw i ddatblygu amheuaeth iach o ran pwy mae pobl yn ddweud ydy nhw.

Rhannwch eich gwybodaeth a'ch profiad o berthnasoedd. Er enghraifft, weithiau mae pobl yn ymddangos yn glên ar y dechrau ac yna maen nhw'n troi allan i fod yn gâs. Gadewch iddyn nhw wybod eich bod chi'n gwybod hyn, gallent siarad â chi amdano. Ac nad ydych chi wedi mynd i banig nac yn eu cosbi os ydyn nhw'n gwneud hynny.

Dangoswch iddyn nhw sut i roi gwybod am unrhyw ymddygiad pryderus maen nhw'n ei weld ar-lein - er enghraifft trwy Orchymyn Cam-fanteisio ar Blant ac Amddiffyn Ar-lein neu Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd.

Rydyn ni'n helpu i baratoi ein plant ar gyfer eu dyfodol os ydyn ni'n eu helpu i fynd ar-lein yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae llawer o bobl yn poeni am faint o amser mae plant yn dreulio o flaen y sgrin, ond gall fod llawer o bethau cadarnhaol ynglŷn â'r hyn y mae eich plentyn yn ei wneud ar-lein - adloniant, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac ymchwilio i waith cartref - felly amser sgrin o ansawdd sy'n bwysig.

< Fideo blaenorol                                                                                                                                                                          Fideo nesaf > 

EISIAU GWYBOD MWY?

Os ydych chi eisiau gwybod mwy sut i atal cam-drin plant yn rhywiol, gallwch wylio gweddill ein ffilmiau byr.

Os ydych chi'n poeni am sut mae oedolyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch gael cefnogaeth gyfrinachol drwylinell gymorth Stop It Now! 0808 1000 900. Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun eto, gallwch ddefnyddio einsgwrs fyw neu anfon neges ddiogel.

Gallwch ddefnyddio’r dolenni isod i ddarllen am:

Create a Family Safety
Plan

A family safety plan can help to protect children by creating a safer environment where they can discuss worries, set boundaries and get help.

Learn More

What to do if your child gets into trouble online

It's not always easy to know how to help keep children safe online. If your child gets into trouble online, our guide can help support them.

Learn More

Harmful sexual behaviour in young people

Harmful sexual behaviour in young people can often begin with the viewing of content they shouldn't be accessing. Understanding how to keep children safe online is vital to help protect them.

Learn More

What to do if a child tells about abuse

It can be difficult to know how to respond if a child tells you about abuse - we can help you to respond in a sensitive and appropriate way.

Learn More